Tuesday, 7 September 2010

Llyfr Del - Little Book, Cosyn felyn bach - Little Yellow Flower - in my case a Primrose and Cowslip.

LLYFR DEL

Cosyn Melyn Bach yn Mynd i Nôl Burum i Mam

                                    Little Yellow Rose is going back to Mother Yeast
Gan,   Gwilym Roberts
Cosyn Melyn Bach yn mynd ar daith go bell i nôl burum i mam, ac mi ddoth
  ar draws dyn yn torri [gwair]. [Yna ar draws dyn yn torri clawdd.]


'Ble rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?' medde'r dyn oedd yn torri clawdd.

'I nôl burum i mam', medde fo.

A dyma'r hen ddyn 'ma'n trio hitio Cosyn Melyn Bach efo cryman.

'Wel, dwi 'di dod heibio dyn yn torri gwair, ac mi â'i heibio chitha, os galla'i', medde Cosyn Melyn Bach. A dyma fo jymp yn 'i flaen . A mi ath am   bwl wedyn a dod ar draws dyn yn torri mawn. A dyma hwnnw'n gofyn:

'Lle rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?'

'I nôl burum i mam', medde fo, 'dwi wedi dwad heibio dyn yn torri gwair,   heibio dyn yn torri clawdd, ac mi â'i heibio chitha, os galla'i', medde fo, felna. A dyma'r hen ddyn 'ma'n ceisio hitio Cosyn Melyn Bach hefo coes huarn  torri mawn.

A mi ath yn 'i flaen wedyn, ac odd hi'n dechre twyllu erbyn hyn. A dyma Cosyn
  Melyn Bach yn dwad i ryw hen goed mawr, ac yn 'i flaen ath o, a dyma ryw hen
  lew mawr yn dod i'w gwfwr o yn y coed 'ma. Dyma'r hen lew yn gofyn i Cosyn Melyn  Bach:


'Lle rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?'


'I nôl burum i mam', medde fo, felna.


'Tyrd ar fy nghefn i', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach. 


'Na, na, wir', medyde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medde
  fo, felna.



'Wel, tyrd ar fy ngwar i, 'te', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach.

  'Na, na, wir', medde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medde
  fo, felna.



'Wel, tyrd ar fy mhen i, 'te', medde fo wrth Cosyn Melyn Bach.

'Na, na, wir, mae'ch ofn chi arna i', medde fo, felna.


'Wel, tyrd ar fy nhrwn i, 'te', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach. 

  A Cosyn Melyn Bach wedi mynd rwan odd o'n crynu fel deilen, ac ofn ofnadwy,
  a hithe'n dechre mynd yn nos. 'Tyrd ar fy nhrwyn i', medde'r hen lew 'ma.



'Na, na, wir', medde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medda
  fo, felna. A dyma'r hen lew 'ma yn neidio amdano fo, ac 'AWCH!', medde fo , felna, a dyma fo'n llyncu Cosyn Melyn Bach. [Chwerthin]


No comments: